top of page

Swyddogion Diogelu

Yng Nghlwb Canŵio Eryri, diogelwch a lles ein haelodau yw ein prif flaenoriaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich lles neu ddiogelwch eich hun, neu les neu ddiogelwch aelod arall o’r clwb, mae croeso i chi gysylltu ag un o’n swyddogion diogelu. Rydyn ni yma i wrando arnoch chi, eich cefnogi, a thrin eich pryderon gyda'r gofal a'r parch mwyaf.

Kathy Webb - Safeguarding Officer.jpg

Kathy Webb

Mae Kathy yn Arweinydd Caiac Môr Uwch Canŵio Prydeinig ac yn Tywysydd Caiac Mor Prydeinig. Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth a hyfforddiant fel gwirfoddolwr gyda'n clwb, mae Kathy yn darparu hyfforddiant Caiacio Môr a SUP yn broffesiynol. Mae hi hefyd yn Arweinydd Mynydd cymwys, Saethyddiaeth, ac yn hyfforddwr dringo dan do. Mae hi'n gweithio i nifer o sefydliadau sy'n arwain grwpiau ysgol ar deithiau tramor. Mae hi wedi gweithio yn y gorffennol yng Nghanolfan Hyfforddiant Mynydd Plas Y Brenin, ac wedi gwirfoddoli am nifer o flynyddoedd yn arwain teithiau Sgowtio gartref a thramor. Mae hi wedi dablo ym myd Slalom ac ar adegau prin, gellir ei gweld ar Padarn yn ei chanŵ gyda chi’r teulu – Dobbi!

07794 189250

Nick Goodall

Mae Nick yn Uwch Arweinydd Canŵio, Caiac Môr Dŵr Cymedrol ac Arweinydd OC1, mae hefyd yn Arweinydd Mynydd Haf. Mae Nick yn Weithiwr Ieuenctid cymwysedig ac wedi bod yn darparu addysg awyr agored am y 25 mlynedd diwethaf, yn bennaf fel rhan o gynllun Gwobr Dug Caeredin. Am y 10 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn rhedeg Stepping Outdoors a phan nad yw’n gweithio gyda phobl ifanc ar alldeithiau, mae’n treulio ei amser mewn caiac yn syrffio neu’n crwydro Gogledd Cymru ar droed, ar gaiac môr, neu ar feic modur.

07951 496413

Nick Goodall3 - Safeguarding Officer.jpg

Oes gennych chi gwestiynau?

Cwblhewch y ffurflen hon gyda'ch manylion cyswllt ac unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein clwb. Pan fyddwch chi wedi gorffen, cliciwch ar y botwm anfon. Byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Trwy'r rhew.jpg

Diolch am gyflwyno!

bottom of page